Gwyliau Hanner Tymor yr Hydref 2024
Ni fydd y rhan fwyaf o'n dosbarthiadau wythnosol yn rhedeg o 28ain o Hydref tan y 1af o Dachwedd dros wyliau hanner tymor.
Bydd ein hamserlen wythnosol arferol yn ailddechrau ar y 4ydd o Dachwedd ac mae dosbarthiadau bellach ar agor i fwcio yr wythnos honno. Diolch i'n holl cwsmeriaid am eich cefnogaeth a Chalan Gaeaf Hapus i bawb!
Weekly GCSE & A Level lesson timetable

Just Added!

Sut Rydym yn Gweithio
Cliciwch Bynciau
Chwiliwch trwy'r pynciau i ddod o hyd i'r un rydych chi ei eisiau. Cliciwch ar bwnc i ddysgu mwy am ein tiwtoriaid a'r hyn rydym yn ei gynnig.
1-1 Gwersi Ar-lein
Unwaith y byddwch wedi dewis eich tiwtor dymunol anfonwch neges atom trwy glicio ar y cyswllt a llenwch ein ffurflen ymholiad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'r pwnc, y lefel a'r tiwtor a ddymunir. Os ydych yn ansicr am pa diwtor gallwn eich arwain i diwtor briodol i gwrdd â'ch anghenion.
Sesiynau Grŵp
Ymunwch yn un o’n sesiynau grŵp pwnc-benodol i wella eich dealltwriaeth ac i ymarfer cwestiynau cyn papur. Cliciwch ar 'pynciau' a dewiswch y pwnc priodol. Cliciwch 'archebu nawr' ar eich sesiwn ddymunol, dewiswch yr amser sydd ar gael, pwyswch nesaf a chwblhewch eich archeb.
Pwy yw Apex AC?
Ein Stori
Profiad a Rhagoriaeth.
Athrawon a Thiwtoriaid
Ni yw Ann a Catrina, dwy addysgwraig angerddol a phrofiadol gyda gweledigaeth gyffredin; i wneud tiwtora safon-uchel yn hygyrch ac yn fforddiadwy i fyfyrwyr Cymru. Gyda phrofiad o dros 30 mlynedd o addysgu rhyngom, rydym wedi gweld dros ein hunain bŵer trawsnewidiol addysg ar-lein a’r effaith gall ei chael ar berfformiad myfyrwyr.
Drwy gydol ein gyrfaoedd, rydym wedi gweld yr heriau a wynebir gan fyfyrwyr sy'n cael trafferth cadw i fyny â chyflymder dysgu traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth, boed hynny oherwydd anghenion dysgu penodol, diffyg adnoddau, neu rwystrau eraill.
Wedi’n hysgogi gan awydd i wneud gwahaniaeth, gychwynnom ar daith i bontio’r bwlch hwn drwy sefydlu gwasanaeth tiwtora ar-lein wedi’i deilwra’n benodol i anghenion myfyrwyr Cymru.
Ond mae ein hymrwymiad i hygyrchedd yn mynd y tu hwnt i diwtora o safon yn unig. Credwn fod pob myfyriwr, waeth beth fo'i gefndir neu ei fodd ariannol, yn haeddu mynediad at yr offer a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Dyna pam yr ydym wedi gwneud fforddiadwyedd yn gonglfaen i'n gwasanaeth.
Megis dechrau mae ein taith, ond mae ein hangerdd am addysg ac ymrwymiad i’n myfyrwyr yn parhau’n ddiwyro. Gyda’n gilydd, rydym am lunio dyfodol addysg yng Nghymru, un wers ar y tro. Ymunwch â ni ar yr antur gyffrous, a gyda'n gilydd, gadewch i ni ddatgloi potensial pob myfyriwr.